Llyfrau Lliwgar
@yllyfraulliwgar
Clwb llyfrau LHDTC+ wedi’i leoli ym Mangor a Chaerdydd 🏳️🌈
Cyfarfod unwaith bob mis i drafod testunau o bob math.
Cysylltwch â [email protected].
ID: 1427285983012298752
16-08-2021 15:08:02
738 Tweet
555 Takipçi
664 Takip Edilen
Mae dal llefydd ichi wneud cais am le ar encil sgwennu LHDTC+ AM DDIM yn Tŷ Newydd ym mis Tachwedd. Encil ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a #LlyfrauLliwgar ydi hyn a bydd yr awdur Mike Parker a'r bardd-gantores Melda Lois ymysg yr ysgogwyr! llenyddiaethcymru.org/lw-news/encil-… Amdani!
Sgwenwyr creadigol LHDTC+ yn y gogledd! Mae gan Llyfrau Lliwgar glwb sgwennu dwyieithog anffurfiol yn dechrau ddydd Sadwrn yma, 17 Awst, yn Palas Print. Dewch yn llu, boed yn newydd i sgwennu neu'n hen law - bydd yn ofod saff a chynhwysol! A Llŷr Titus fydd yr ysgogydd creadigol!
Llyfrau Lliwgar has a new series of writing workshops for LGBTQ+ writers in north Wales! The first session will be held this Saturday, 17th of August in Palas Print . Be you new to writing or a dab hand, everyone is welcome! And Llŷr Titus will be kickstarting the workshop!
Mae testun trafod mis Medi Llyfrau Lliwgar Caerdydd wedi'i osod! Dewch yn llu i Ganolfan Chapter Arts Centre lCaerdydd am 7yh ar nos Iau, 26ain o Fedi, i drafod #Madws gan Sioned Wyn Roberts! Croeso cynnes i bawb ymuno!
10 diwrnod i ymgeisio! Mae Ailddyfeisio'r Prif Gymeriad yn gwrs ar-lein AM DDIM dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O'Reilly. Ar gyfer awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru. ⭐ llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau…
Beth am ddefnyddio'r penwythnos hir i ymgeisio ar gyfer un o'n galwadau agored? Mae dyddiad cau ambell un yn agosáu... 👉Ailddyfeisio'r Prif Gymeriad (29 Awst) 👉Encil Llyfrau Lliwgar (30 Awst) 👉Cynrychioli Cymru 2025-2026 (10 Hydref) llenyddiaethcymru.org/for-writers/cy…
Testunau’r Enfys - galw ar ymchwilwyr ac ymarferwyr creadigol ar gyfer gweithdy a chynhadledd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy nawdd Cymraeg CCC Coleg Cymraeg Ôl-radd 📚Manylion llawn ar wefan CCC, isod. Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor AU Theatre Film & TV Llyfrau Lliwgar colegcymraeg.ac.uk/newyddion/digw…
Bydd criw Llyfrau Lliwgar Bangor yn cwrdd nos Fercher am 7yh yng Nghaffi Blue Sky! Dewch yn llu i drafod #Darogan gan Sian Llywelyn Gwasg Carreg Gwalch! - croeso cynnes i aelodau newydd ymuno! Rhannwch y sôn os gwelwch yn dda!
Diolch o galon i bawb ddaeth draw heno i Gaffi Blue Sky Bangir i drafod #Darogan gan Sian Llywelyn Gwasg Carreg Gwalch. Mi gafwyd sgwrs ddifyr a thrafodaeth mor fywiog â'r nofel! Edrych ymlaen at eich gweld fis nesa!
Awduron LHDTCA+! Mae gennych chi tan hanner dydd fory (ddydd Gwener 30 Awst) i ymgeisio am le ar ein hencil a gynhelir mewn partneriaeth â Llyfrau Lliwgar yn Nhŷ Newydd rhwng 8-10 Tachwedd eleni: llenyddiaethcymru.org/lw-news/encil-…
Mae’r dyddiad cau wedi ymestyn tan 10 Medi! 🌈 Mae’r holl fanylion ar wefan y Coleg i ymgeisio am le - cyntaf i’r felin! ⬇️ Llyfrau Lliwgar Prifysgol Bangor Prifysgol Aberystwyth Llyfrgell Genedlaethol Cymru colegcymraeg.ac.uk/newyddion/digw…