Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profileg
Annes Glynn

@Yr_Hen_Goes

Dal i ganu, dal i gredu...

ID:888711362318401536

calendar_today22-07-2017 10:44:35

3,0K Tweets

1,6K Followers

944 Following

Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

Nid awn i'r ysgol fory.
Mae llefen fel y glaw
Ar ôl i'r tip ei mogi,
A'n byd ar stop ers naw.

Cofiwn Aberfan: Hydref 21, 1966

Nid awn i'r ysgol fory. Mae llefen fel y glaw Ar ôl i'r tip ei mogi, A'n byd ar stop ers naw. Cofiwn Aberfan: Hydref 21, 1966
account_circle
Archbishop Andrew John(@ArchbishopWales) 's Twitter Profile Photo

Mae angen inni weddïo am heddwch yn y Wlad Sanctaidd. Rwy’n ymuno ag eraill o bob rhan o’r byd i weddïo’r weddi y mae’r Archesgob Hosam Archbishop Hosam Naoum , Archesgob Anglicanaidd Jerwsalem a’r Dwyrain Canol, wedi ein gwahodd i weddïo. Ymunwch â mi i weddïo am heddwch.

Mae angen inni weddïo am heddwch yn y Wlad Sanctaidd. Rwy’n ymuno ag eraill o bob rhan o’r byd i weddïo’r weddi y mae’r Archesgob Hosam @naoum1974 , Archesgob Anglicanaidd Jerwsalem a’r Dwyrain Canol, wedi ein gwahodd i weddïo. Ymunwch â mi i weddïo am heddwch.
account_circle
Cyhoeddiadau'r Stamp(@ystampus) 's Twitter Profile Photo

☕ Cerddi Canol Pnawn yn cyflwyno Tegwen Bruce Deans + mic agored barddoniaeth

Cyfres (+ rebrand) o ddigwyddiadau barddoniaeth cyfrwng Cymraeg, croesawgar, di-alcohol mewn gofodau yng nghymunedau gogledd orllewin Cymru.

Sadwrn 11 Tachwedd ~ 14:30 ~ Canolfan Cefnfaes, Bethesda

☕ Cerddi Canol Pnawn yn cyflwyno Tegwen Bruce Deans + mic agored barddoniaeth Cyfres (+ rebrand) o ddigwyddiadau barddoniaeth cyfrwng Cymraeg, croesawgar, di-alcohol mewn gofodau yng nghymunedau gogledd orllewin Cymru. Sadwrn 11 Tachwedd ~ 14:30 ~ Canolfan Cefnfaes, Bethesda
account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

Brodiwn gynfas urddasol; er hynny,
rhwng yr haenau duwiol,
gwn, Siân, fod ym mhlygion siôl,
edafedd y diafol.
'O dan yr wyneb', Hel Hadau Gwawn Barddas

account_circle
Clera(@PodlediadClera) 's Twitter Profile Photo

 ninnau’n dathlu , beth am ddathlu barddoni yn Gymraeg drwy wrando ar bodlediad barddol Cymraeg hynaf y byd?

Yn y bennod ddiweddaraf cawn glywed gan Brifardd Coron eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ymysg difyr bethau eraill.

on.soundcloud.com/uG1mBkE34B3QR7…

account_circle
Gwasgybwthyn(@Gwasgybwthyn1) 's Twitter Profile Photo

Pennod newydd i’r ddau yma heddiw 🥳…

Ymddeoliad hapus a haeddianol iawn Marred. Diolch am BOB DIM a’r blynyddoedd o ymroddiad i’r wasg ❤️

Dyma estyn croeso cynnes i Olygydd Creadigol newydd Bwthyn, Gerwyn Williams 👏🏻

Pennod newydd i’r ddau yma heddiw 🥳… Ymddeoliad hapus a haeddianol iawn Marred. Diolch am BOB DIM a’r blynyddoedd o ymroddiad i’r wasg ❤️ Dyma estyn croeso cynnes i Olygydd Creadigol newydd Bwthyn, Gerwyn Williams 👏🏻
account_circle
Neuadd Bentref Rhiwlas(@NeuaddRhiwlas) 's Twitter Profile Photo

Hwre, rhifyn mis Medi cylchlythyr wedi cyrraedd! Copïau ar gael o'r Neuadd, ac ar y wefan, ond byddwn ni'n dosbarthu o gwmpas y pentref o ddrws i ddrws yn fuan - pan ma'r tywydd yn well wrth gwrs!
Ishio noddi'r cylchlythyr, cysylltwch [email protected]

Hwre, rhifyn mis Medi cylchlythyr #NeuaddRhiwlas wedi cyrraedd! Copïau ar gael o'r Neuadd, ac ar y wefan, ond byddwn ni'n dosbarthu o gwmpas y pentref o ddrws i ddrws yn fuan - pan ma'r tywydd yn well wrth gwrs! Ishio noddi'r cylchlythyr, cysylltwch PRNeuaddRhiwlas@gmail.com
account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

'Pwy'n ei iawn bwyll na floeddiai
Dros ryddid i'r Gymru 'lai'
Ym marn Sunak a'i fintai?
Codwch, dewch allan o'ch tai!
Ymunwch 'nawr â'r siwrnai.'
Yn unfryd, medd Bangor: 'Aye!'

'Pwy'n ei iawn bwyll na floeddiai Dros ryddid i'r Gymru 'lai' Ym marn Sunak a'i fintai? Codwch, dewch allan o'ch tai! Ymunwch 'nawr â'r siwrnai.' Yn unfryd, medd Bangor: 'Aye!'
account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

Deiseb: Dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio’r enw 'Anglesey' a defnyddio’r enw 'Ynys Môn' yn unig neu’r enw byrrach 'Môn'. deisebau.senedd.cymru/deisebau/245676

account_circle
Esgobaeth Bangor | The Diocese of Bangor(@EsgobaethBangor) 's Twitter Profile Photo

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Ynys Enlli | Bardsey Island❤️

Daeth ein encil tri diwrnod ar Ynys Enlli yn noddfa i'n heneidiau lle ffynnodd cymdeithas Gristnogol ac adnewyddiad ysbrydol.

A 3 day retreat on Enlli - Bardsey became a LIFE CHANGING experience for these pilgrims!

bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/newyddion/2023…

account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

Gwych gweld bod rhai o 'ngherddi o'r gyfrol 'Hel Hadau Gwawn' wedi eu cyfieithu i'r Iseldireg yn ddiweddar. Maen nhw ar gael ar wefan lluniadau.com. Diolch i Mary Burdett Jones a Margriet Boleij am y cydweithio hyfryd yma. Cliciwch ar 🇱🇺 i'w gweld yn eu gwisg newydd.

Gwych gweld bod rhai o 'ngherddi o'r gyfrol 'Hel Hadau Gwawn' wedi eu cyfieithu i'r Iseldireg yn ddiweddar. Maen nhw ar gael ar wefan lluniadau.com. Diolch i Mary Burdett Jones a Margriet Boleij am y cydweithio hyfryd yma. Cliciwch ar 🇱🇺 i'w gweld yn eu gwisg newydd.
account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

Er cof am Gareth Miles
Enaid prin â'r ddawn brinnach o weld mwy
na gwlad mân ei bregliach;
para wna, er canu'n iach,
rhodd ei angerdd ehangach.

Er cof am Gareth Miles Enaid prin â'r ddawn brinnach o weld mwy na gwlad mân ei bregliach; para wna, er canu'n iach, rhodd ei angerdd ehangach.
account_circle
Dafydd Iwan(@dafyddiwan) 's Twitter Profile Photo

Isio prynu ty yng Ngwynedd? Gall TAI TEG eich helpu hyd at 50% o'r pris. Rhaid gwario'r arian cyn diwedd y flwyddyn. Manylion ar
taiteg.org.uk
Dim byd i'w golli!

account_circle
Annes Glynn(@Yr_Hen_Goes) 's Twitter Profile Photo

'Cerddwn ymlaen!'
(i Dafydd Iwan ar ei ben-blwydd yn 80 oed)
'D.I.' - ti fu'n trwbadŵr, ti fu'n llais,
ti fu'n llên, ein clerwr;
un iau o hyd. Ti'n hen ŵr?!...
Herio oed wnei'n pen-rodiwr. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

'Cerddwn ymlaen!' (i Dafydd Iwan ar ei ben-blwydd yn 80 oed) 'D.I.' - ti fu'n trwbadŵr, ti fu'n llais, ti fu'n llên, ein clerwr; un iau o hyd. Ti'n hen ŵr?!... Herio oed wnei'n pen-rodiwr. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
account_circle